YSGOLORIAETHAU BANGOR GYNHWYSOL 2025/26

Mae Prifysgol 69´«Ã½ yn aelod o siarter Athena Swan ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel.
Mae Ysgoloriaethau 69´«Ã½ Gynhwysol y Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau ym Mangor na fyddent yn gallu gwneud hynny fel arall oherwydd rhwystrau ymarferol neu ariannol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan fyfyrwyr sydd wedi wynebu rhwystrau neu anghydraddoldebau oherwydd bod ganddynt un neu fwy o nodweddion gwarchodedig (fel y nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb) a/neu anfantais economaidd.
Bydd yr ysgoloriaethau’n ein galluogi i amlygu a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith ein myfyrwyr ym Mhrifysgol 69´«Ã½ ac i sicrhau y caiff llais a phrofiad y myfyrwyr eu hymgorffori yn ein hagenda Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Hoffem gefnogi datblygiad gyrfa ein myfyrwyr a chynnig cyfle i ddeiliaid ysgoloriaethau gymryd rhan yn y gwaith hwnnw os dymunant wneud hynny.
Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg
Cymhwystra
I fod yn gymwys i wneud cais am yr ysgoloriaethau rhaid i'r ymgeiswyr ateb y gofynion canlynol:
- Bod yn fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf ar hyn o bryd ym Mhrifysgol 69´«Ã½, neu fod wedi graddio o gwrs gradd israddedig 69´«Ã½ Fangor yn y ddwy flynedd ddiwethaf (2023, 2024) a
- Bod â - neu disgwylir iddynt gyflawni - y gofynion mynediad ar gyfer eu gradd meistr ddewisol i ddechrau ym mis Medi 2025
Nodiadau pellach ar gymhwystra:
- Nid yw cyrsiau Meistr integredig yn gymwys (caiff y rhain eu cyfrif fel cyrsiau israddedig)
- Nid yw myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn bwrsariaethau / ysgoloriaethau eraill (fel KESS) neu'r rhai a dderbynnir ar gyrsiau ôl-radd noddedig yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth 69´«Ã½ Gynhwysol
- Caiff unrhyw ysgoloriaethau / gostyngiaau a gymhwysir yn awtomatig (e.e. gostyngiad teyrngarwch) eu disodli gan ysgoloriaeth 69´«Ã½ Gynhwysol
- Dylai myfyrwyr sy'n hanu o Gymru nodi, os dyfernir ysgoloriaeth 69´«Ã½ Gynhwysol iddynt, y cânt eu rhestru fel myfyriwr noddedig ac felly ni chânt eu hystyried ar gyfer bwrsariaeth HEFCW.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol nodi, os dyfernir ysgoloriaeth 69´«Ã½ Gynhwysol iddynt, na fyddant yn gymwys i gael unrhyw wobrau rhyngwladol eraill gan y Brifysgol.
Pa feini prawf a ddefnyddir i werthuso ceisiadau?
- Cymhelliant personol a dyheadau am yrfa
- Adfyfyrio ynglŷn â rhwystrau ac anghydraddoldeb
- Gweledigaeth dros newid
- Eglurder ac ymgysylltiad
Beth mae'n ei gynnwys?
- Taliad tuag at ffioedd dysgu cwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil am un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yr astudir y cwrs yn rhan amser. Bydd terfyn uchaf o £9,500.
Nodiadau:
Ar gyfer cyrsiau (amser llawn) sy'n para’n hwy na 12 mis, dim ond am y flwyddyn gyntaf y bydd yr ysgoloriaeth yn talu'r ffioedd dysgu.
Nid oes arian parod ar gael yn lle.
Cyfleoedd i ddeiliaid ysgoloriaethau
Bydd cyfle i ddeiliaid ysgoloriaethau fod yn rhan o weithgareddau, digwyddiadau a mentrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar lefel Ysgol/Coleg/Prifysgol. Dyma wahodd deiliaid ysgoloriaethau i ymuno â phwyllgorau Athena Swan/Cydraddoldeb ar lefel Coleg a/neu Ysgol fel cynrychiolwyr myfyrwyr ôl-radd.
Felly anogir ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio'r adnoddau canlynol:
- Adroddiadau cydraddoldeb blynyddol Prifysgol 69´«Ã½
- Athena Swan @ Prifysgol 69´«Ã½
- Siarter Cydraddoldeb Hil @ Brifysgol 69´«Ã½
Gwybodaeth bellach am Siarteri Athena Swan a Chydraddoldeb Hiliol Advance HE:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am y cynllun neu am Athena Swan ym Mangor, cysylltwch ag athenaswan@bangor.ac.uk
Y Drefn Ymgeisio
I wneud cais, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r ffurflen gais a CV erbyn 30 Mehefin 2025.
Cynhelir cyfweliadau (trwy Teams) o’r wythnos yn dechrau 14 Gorffennaf 2025.