69´«Ã½

Fy ngwlad:
Main Arts open window drone

Cyrsiau Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ ar gyfer Medi 2025

Ein Cyrsiau

Beth yw Clirio? 

Mae Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ yn cynnig cyfle gwerthfawr i amrywiaeth eang o unigolion i ddod o hyd i'r cwrs prifysgol perffaith ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yn dechrau ym mis Medi 2025. 

Meddygaeth

Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl i ganlyniadau Lefel-A gael eu rhyddhau i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.

Fferylliaeth 

Mae lleoedd Fferylliaeth ar gael drwy'r system Glirio. Cofrestrwch eich diddordeb, a byddwn yn cysylltu â'r rhai ar y rhestr yn syth ar ôl Diwrnod Canlyniadau Lefel-A i drafod cyfleoedd Clirio posibl.

Pryd mae Clirio yn 2025?

Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025. Gallwch wneud cais trwy UCAS i astudio cwrs gradd israddedig ym Mhrifysgol 69´«Ã½ hyd at ddydd Llun, 30 Mehefin, 18:00.

Pwy All Wneud Cais Drwy Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½?

  • Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol 69´«Ã½ drwy Clirio.
  • Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol 69´«Ã½ yn uniongyrchol drwy Clirio.

Pam Gwneud Cais i Brifysgol 69´«Ã½ Drwy Clirio?

Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol 69´«Ã½ drwy Clirio am sawl rheswm:

  • Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ gynnig eich cyfle nesaf.
  • Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol 69´«Ã½.
  • Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
  • Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
  • Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½ gynnig llwybr i addysg uwch.

Cynllunio'ch Opsiynau Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½

Hyd yn oed os ydych chi'n disgwyl am eich canlyniadau, dyma'r amser perffaith i ddechrau meddwl am eich opsiynau Clirio. Os nad ydych chi wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto neu'n ailystyried eich dewisiadau, dechreuwch archwilio ein meysydd pwnc, cymerwch olwg manylach ar ein cyrsiau a chofrestrwch eich diddordeb mewn Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn Clirio

Gwylio - Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio

Clawr fideo efo llun Dafydd, logo Prifysgol 69´«Ã½ a'r ysgrifen Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio ym Mhrifysgol 69´«Ã½
Fideo: Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio

Mynegi diddordeb ymgeisio drwy Clirio 2025

Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio mewn labordy

Dod o hyd i'r cwrs i chi drwy Clirio Lleoedd Clirio

Nid yw'n rhy gynnar i edrych drwy ein cyrsiau israddedig am wybodaeth fanwl ar gyrsiau unigol fel eich bod yn barod os byddwch yn ffeindio eich hun yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau. Noder os gwelwch yn dda, bydd y cyrsiau sydd ar gael trwy Clirio wedi cael eu marcio fel cyrsiau Clirio ar ein gwefan o fis Gorffennaf.

Pam dewis Prifysgol 69´«Ã½?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Byw mewn Llety modern sy'n gyfleus a chyfforddus

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Cewch ddewis byw yn o'r ddau bentref myfyrwyr - Ffriddoedd neu'r Santes Fair. Mae ein llety wedi derbyn 1af yng Nghymru a 12fed am lety yn y DU gan University Compare (2026).

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Rydym yn 3ydd yng Nghymru am Fywyd Cymdeithasol gan University Compare (2026), ac yn falch o gynnig cymuned fyfyrwyr bywiog a chroesawgar.

 

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden. 

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig