Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno.
Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.
Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 69´«Ã½, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Meddai’r Athro Walsh: “Mae ein canlyniadau’n dangos bod cymryd bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn gostwng tymheredd corff wrth orffwys a gwella perfformiad wrth redeg o 5%â€
Yn aml, mae gofyn i athletwyr gystadlu mewn gwres uchel ond gwres yw gelyn perfformiad da. Mae’r corff yn chwysu er mwyn oeri, ond mae hyn yn rhoi straen ar y system gardiofascwlar sy’n arwain at flinder a lleihad mewn perfformiad.
Ychwanegodd: “ Rydym yn cydnabod hefyd fod y strategaeth wahanol yma o gael y corff i gynefino â gwres yn groes i ddulliau athletwyr o weithredu ar hyn o bryd, sydd yn cynnwys mynd i fath rhew wedi ymarfer, arfer a elwir yn ‘cryotherapi’. “ Rydym yn credu mai’r mantra newydd i berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, yw ‘ymarfer oer, ymdrochi poeth’â€
Er bod y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi ymdrochi am hyd at 40 munud mewn dŵr 40°C wedi ymarfer, efallai y gellir cael budd o ymdrochi am gyn lleied ag 20 munud. Mae’r arbenigwyr yn argymell gweithredu mewn ffordd synhwyrol a diogel wrth ymgynefino â gwres.
Mae canllawiau ymarferol (Saesneg) ar gael yn:
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016