Rhestr Fer Gwobr Student Nursing Times
Mae Prifysgol 69´«Ã½ yn hynod falch bod un o'n myfyrwyr bydwreigiaeth, Jonathan Cliffe, wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2015. Mae Jonathan yn un o saith myfyriwr bydwreigiaeth o bob cwr o’r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn.
Eleni, mentrodd dros 400 o fyfyrwyr nyrsio dawnus, darparwyr addysg a mentoriaid ymuno â'r gystadleuaeth. Mae'r gwobrau'n cydnabod myfyrwyr sy'n "mynd yr ail filltir" i wella gwasanaethau a phrofiadau cyd-fyfyrwyr. Mae Jonathan wedi bod yn allweddol wrth roi amlygrwydd addysg bydwreigiaeth o fewn yr ardal a ledled Cymru fel
Cynrychiolydd Myfyrwyr ac fel Sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Bydwreigiaeth Prifysgol 69´«Ã½.
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol, "Rwy'n falch iawn bod cyfraniad rhagorol Jonathan i fywyd myfyrwyr o fewn yr Ysgol wedi cael ei gydnabod fel hyn. Dymunwn yn dda iddo yn y seremoni wobrwyo ym mis Mai".
Mae'r Ysgol hefyd yn hynod o falch bod dau o'r gwasanaethau iechyd sy'n darparu lleoliadau i'n myfyrwyr nyrsio yng Ngogledd Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae Nyrsys Ardal Plas Madoc Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o wyth gwasanaeth neu dîm clinigol sydd ar restr fer gwobr Lleoliad Cymunedol y flwyddyn.
Mae Ward Ceiriog Ysbyty Cymunedol y Waun yn un o wyth lleoliad sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori lleoliad mewn ysbyty.
Aeth yr Athro Rycroft-Malone yn ei blaen i ddweud bod "yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio'n agos i sicrhau fod profiad dysgu a chlinigol ein myfyrwyr o'r radd flaenaf. Mae’n arbennig o wych gweld dau leoliad clinigol sy'n dylanwadu ar ac yn ysbrydoli nyrsys ein dyfodol yn cael cydnabyddiaeth fel hyn".
Cyhoeddir enillwyr gwobrau'r Student Nursing Times 2015 ar 7 Mai yng Ngwesty’r Hilton Llundain ar Park Lane.
â
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015