Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin
Catrin yn cystadlu yn Wsbecistan yn ddiweddar.
Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol 69´«Ã½ sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.
A hithau wedi cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn ddiweddar, mae Catrin hefyd newydd ennill prif wobr chwaraeon Prifysgol 69´«Ã½, sef Gwobr Goffa Llew Rees.
Meddai tad Catrin, David Jones, sydd hefyd yn ei hyfforddi ac sy’n Rheolwr ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford, am lwyddiant diweddaraf ei ferch:
“Mae cael ei gosod yn bedwerydd yn y byd yn gyrhaeddiad gwych ar ôl taith mor fyr ac wedi Gemau’r Gymanwlad.â€
Mae’r fyfyrwraig, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn astudio Seicoleg, yn sicr yn gwneud ei marc ym myd chwaraeon – hi hefyd oedd Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2017 y BBC.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018