Dathlu Ugain Mlynedd o Addysg Nyrsio Iechyd Meddwl Ragorol ym Mhrifysgol 69´«Ã½
Mae Prifysgol 69´«Ã½ yn hynod falch o ddathlu dau ddegawd o addysg nyrsio Iechyd Meddwl yn ei safle yn Wrecsam gyda chacen a sgwrs fer am 11.00am ddydd Sadwrn 15 Hydref. Mae gwahoddiad agored i gyn-fyfyrwyr, staff ac unrhyw un arall sydd â chysylltiadau â'r cwrs. Mae gan Nyrsio Iechyd Meddwl hanes maith a diddorol yng Ngogledd Cymru gyda llawer o'r gwasanaeth yn deillio o gyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, gyda chymuned fawr o bobl leol ar draws Gogledd Cymru'n chwarae rhan bwysig yn y gwasanaeth a ddarperid. Yn draddodiadol, roedd addysg i nyrsys iechyd meddwl yn cael ei chynnal o fewn y Staff a myfyrwyr yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Bydgwasanaethau hyn, gyda myfyrwyr nyrsio'n gweithio ochr yn ochr â nyrsys rhestredig a chofrestredig yn y maes clinigol. Fodd bynnag, wrth i addysg i broffesiynau gofal iechyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol symud i'r sector addysg uwch, ynghyd â symudiad o wasanaethau iechyd meddwl mewn ysbytai i rai yn y gymuned, fe ddatblygodd addysg nyrsys iechyd meddwl yn unol â hynny. Bwriad sefydlu rhaglen nyrsio Project 2000 oedd sefydlu a datblygu nyrsys i bob maes gyda sylfaen academaidd gryfach i'w hymarfer. Nid oedd nyrsio iechyd meddwl yn eithriad i hyn a gwelwyd y maes yn datblygu ar hyd llinellau newydd drwy gydweithrediad rhwng Awdurdod Iechyd Gofal Cymunedol Clwydian fel yr oedd bryd hynny a Phrifysgol Cymru 69´«Ã½.
Cafodd yr Ysgol Nyrsio a fodolai eisoes ar safle Ysbyty Maelor ei symud ychydig bellter i ffwrdd i Ganolfan Archimedes Wrecsam yn 1993, gan ffurfio Campws Wrecsam Prifysgol 69´«Ã½. Symudwyd yr holl fyfyrwyr nyrsio hefyd i'r safle newydd, yn cynnwys myfyrwyr nyrsio iechyd meddwl, a chafodd yr Ysgol Nyrsio ar safle Maelor ei dymchwel yn 1995 i adeiladu'r wardiau iechyd meddwl cyntaf yn gysylltiedig ag Ysbyty Maelor, i gyd-ddigwydd â chau Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Cafodd yr uned ei hail-enwi'n Llwyn y Groes, gan fod eglwys wedi bod ar y safle'n flaenorol. Mae hon yn awr yn gartref i'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ac fe'i gelwir TÅ· Derbyn. Dechreuodd y grŵp cyntaf o fyfyrwyr iechyd meddwl newydd eu hyfforddiant ar gampws Wrecsam Prifysgol 69´«Ã½ ym Medi 1993, gan gymhwyso fel Nyrsys Iechyd Meddwl 20 mlynedd yn ôl ym Medi 1996.
Mae'r cysylltiadau agos rhwng campws Wrecsam Prifysgol 69´«Ã½ a'r gwasanaethau GIG lleol wedi parhau i dyfu ac rydym yn falch bod llawer o fyfyrwyr yn gallu dysgu a gweithio'n lleol i ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol ar draws Gogledd Cymru. Mae llawer o'r darlithwyr presennol wedi dilyn y llwybr hwn ac yn gallu datblygu cysylltiadau agos rhwng Prifysgol 69´«Ã½ a staff y GIG.
"Fe wnes i fwynhau gwneud fy hyfforddiant nyrsio iechyd meddwl yma ar gampws Wrecsam ganol y 1990au. Fe wnes i gyfeillion oes ac roedd yn wych bod mor agos i'r ysbyty - roedd cefnogaeth y staff yn rhyfeddol! Dwi'n credu y bydd myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd yn cael profiad cystal bob tamaid ag y ges i." Dr Seren Roberts (Darlithydd Iechyd Meddwl, Prifysgol 69´«Ã½).
"Fel mam i ddau o blant ifanc, roeddwn yn gweithio yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn y 1990au, ac fe wnaeth y symud i addysg uwch fy ngalluogi i gwblhau fy niploma mewn nyrsio iechyd meddwl. Yn 1993 fe ddechreuais ar yr yrfa nyrsio roeddwn bob amser wedi breuddwydio amdani ond nad oeddwn yn credu y byddwn fyth yn gallu ei chyflawni oherwydd fy ymrwymiadau teuluol." Dr Marjorie Ghisoni (Darlithydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, Prifysgol 69´«Ã½)
Ynghyd â phrifysgolion eraill yng Nghymru, roedd Prifysgol 69´«Ã½ yn un o'r rhai cyntaf ym Mhrydain i symud i gyfeiriad cwricwlwm nyrsio lle dyfernid graddau i bawb ac mae'n parhau i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu addysg nyrsio o'r safon uchaf ar draws Gogledd Cymru. Yn Complete University Guide 2017 rhoddwyd Prifysgol 69´«Ã½ yn y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig ym maes Nyrsio. Dyma lwyddiant rydym yn eithriadol falch ohono. Tra bo'r rhaglen addysg nyrsio wedi datblygu'n sylweddol dros yr 20 mlynedd - gan dyfu o Ddiploma i Radd mewn Nyrsio - mae ein hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr drwy'r broses o ddod yn nyrsys cofrestredig a fydd yn rhoi'r gofal gorau i boblogaeth Gogledd Cymru cyn gryfed ag erioed. Heddiw, gymaint ag erioed, rydym yn gwerthfawrogi a dibynnu ar y nyrsys rhagorol sy'n gweithio yn y maes clinigol i gefnogi'r myfyrwyr i feithrin y sgiliau angenrheidiol i'w galluogi hwythau hefyd i ddod yn nyrsys o'r radd flaenaf. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r genhedlaeth nesaf o Nyrsys Iechyd Meddwl trwy ddrysau Prifysgol 69´«Ã½ yn Wrecsam yn Ebrill 2017. Mae yna Ddyddiau Agored ar 15 a 29 Hydref, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel nyrs fydd yn rhoi boddhad mawr i chi, mae gennym nifer o lwybrau astudio ar gael. Felly, dewch draw i ddarganfod mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016