Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu
Mae naw aelod o staff wedi derbyn gwobr arobryn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol 69´«Ã½. Mae'r Cymrodoriaethau Addysgu yn cydnabod pwysigrwydd addysgu a dysgu eithriadol o fewn y Brifysgol, ac yn cael eu gwobrwyo ar sail tystiolaeth o fewn pum categori: Ymestyn, Arloesi, Effaith ac Arweinyddiaeth.
Cafodd yr enwebiadau ar gyfer y Cymrodoriaethau eu gwneud gan y Penaethiaid Ysgol, ac roedd eu tystiolaeth yn cael ei adolygu gan Banel y Cymrodoriaethau Addysgu, wedi ei gadeirio gan Yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu. Mae aelodaeth y Panel yn cynnwys Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu y Colegau, aelodau o CELT, y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu, a chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr.
Meddai'r Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu,
"Mae'r rhai sy'n derbyn Cymrydoriaethau eleni yn ymgorffori rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu o fewn Prifysgol 69´«Ã½. Heb os mae'r rhain wedi trawsnewid profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr unigol, grwpiau o fyfyrwyr, modiwlau a rhaglenni. Mwy na hynny, mae'r rhai sy'n derbyn y wobr yma wedi gwella ymarfer da i fewn, ac mewn sawl achos, tu hwnt i'n Prifysgol ni. Tra bod derbyn Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol 69´«Ã½ wastad yn gydnabyddiaeth arbennig o ragoriaeth, mae derbyn y wobr o dan amgylchiadau heriol y flwyddyn hon wir yn eithriadol."
Cyflwynir Gymrodoriaethau Addysgu yn y Coleg Gwyddorau Dynol eleni i:
Dr Gemma Griffith - Uwch Ddarlithydd Seicoleg
Mae Dr Gemma Griffith yn aelod rhagorol o staff o fewn yr Ysgol Seicoleg. Mae Gemma yn Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer ein rhaglenni meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar, ac yn y rôl yma, mae hi wedi ehangu mynediad i nawdd, gan godi nifer y ceisiadau'n sylweddol. Mae ymchwil addysgegol Gemma ar hyfforddiant athrawon hefyd yn hybu ymarfer da ar draws y DU ac yn rhyngwladol, sydd wedi ei dystiolaethu gan ei chyhoeddiadau diweddar, gan gynnwys y gyfrol Essential Resources for Mindfulness Teachers (2021).
Mae gan Gemma brofiad gwych o ran arolygu traethodau hir, sy'n galluogi nifer o'i myfyrwyr gradd meistr i gyhoeddi; mae hyn wedi ei glodfori fel ymarfer eithriadol gan arholwyr allanol. I grynhoi, mae mentora ac arweinyddiaeth gofalus a thosturiol Gemma, yn ogystal a'i rhagoriaeth o ran addysgu ac addysgeg, yn golygu ei bod hi'n haeddu'r wobr arbennig hon.
Dr Caroline Bowman, Pennaeth dros dro, Ysgol Seicoleg
Meddai Gemma, "Mae'n bleser derbyn y gymrydoriaeth addysgu am ddysgu ar y rhaglenni meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol 69´«Ã½. Mae addysgu ar y cwrs meistr wedi golygufy mod i a'r tîm wedi datblygu addysgeg o gwmpas ymarfer da wrth hyfforddi athrawon ymwybyddiaeth ofalgar, mae hyn yn cynnwys yr
teclyn ymarfer adlewyrchiol o'r enw a llyfr diweddar o'r enw ‘’. Astudiais Seicoleg yn wreiddiol nôl yn 2004 yn y gobaith y byddwn rhyw ddydd yn medru cael effaith bositif ar bobl, ac wrth i ni hyfforddi myfyrwyr i fod yn athrawon ymwybyddiaeth ofalgar eu hunain, mae yna deimlad bod ein addysgu ar y cwrs meistr yn cael effaith tu hwnt i Fangor, pryd mae'n myfyrwyr ni yn dysgu eu myfyrwyr am sut i ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i helpu lleihau straen a gwella lles. Mae'r synnwyr hwnnw o 'berthyn' i gymuned o ymarferwyr ac ymchwilwyr ymwybyddiaeth ofalgar - sy'n tynnu ar ddoethineb y rhai a'm dysgodd i, a phasio'r wybodaeth yna ymlaen i eraill, yn ysbrydoliaeth ddyddiol i mi."
Dr Jaci Huws - Uwch Ddarlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd
Mae'n bleser gweld Jaci yn derbyn y wobr yma eleni, sy'n destament i cyfraniad rhagorol a chyson Jaci o ran addysgu, dysgu a chefnogi myfyrwyr 69´«Ã½.
Mewn sawl rôl, mae Jaci yn arddangos safonau arbennig o uchel o ran addysgu, ac awydd gref i gynnig y profiad gorau i fyfyrwyr fedru ffynnu. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu cydnabyddiaeth gan fyfyrwyr a chydweithwyr o ymrwymiad di-flino Jaci i’w rôl ym Mangor.
Mae Jaci yn esiampl wych i eraill a hoffwn ei llongyfarch yn wresog ar y Gymrodoriaeth Addysgu.
Dr Lynne Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
Meddai Jaci, "Mae myfyrwyr sy'n astudio ar y cyrsiau rwy'n eu dysgu yn dod o bedwar ban byd - mae rhai yn byw tafliad carreg o'r Brifysgol, tra bod llawer yn teithio miloedd o filltiroedd i astudio ym Mangor. Maent i gyd yn rhannu angerdd am iechyd, y cyhoedd iechyd, a hybu iechyd, a'r hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am fy ngwaith yw bod ymhlith cymaint o fyfyrwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Bonws ychwanegol yw gwneud fy ngwaith fel rhan o dîm o staff sydd hefyd yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaethau cadarnhaol i fywydau pobl; does ryfedd fy mod i'n caru fy swydd gymaint! "
Kevin Williams
Prif Dechnegydd – Ymchwil Ffisioleg ac Addysgu
Mae Kevin Williams wedi cael dylanwad eang ar addysgu a chefnogaeth myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae ei waith yn rhagorol ac yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ar gyfer aelod technegol o staff. Fel pwnc ymarferol a chymhwysol, sy'n cael ei ddysgu drwy gwricwlwm a arweinir gan ymchwil, mae gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff ym Mangor yn ddibynnol iawn ar gymorth labordy a thechnegol. Mae Kevin wedi darparu hyn heb fai yn ystod ei yrfa, ond mae hefyd wedi mynd y tu hwnt i hynny i sicrhau bod elfen ymarferol i’n graddau israddedig ac ôl-raddedig wedi parhau’n bosibl yn ystod y pandemig.
Y tu hwnt i'w rôl fel technegydd, mae Kevin yn arweinydd modiwl a thiwtor personol, a'i waith yn cael ei ystyried yn rhagorol gan ei fyfyrwyr a'i gydweithwyr. Mae'n defnyddio ei sgiliau iaith Saesneg a Chymraeg, ac mae bob amser yn barod i ollwng ei dasg gyfredol i helpu myfyrwyr a staff unigol pan fyddant yn anochel yn curo ar ei ddrws ar adegau o angen, p'un ai yn y labordy neu'n fugeiliol. Mae gweithgareddau Kevin yn cael effaith gadarnhaol ar yr Ysgol gyfan, ac rydym i gyd yn falch iawn bod ei ymroddiad a'i ragoriaeth yn cael ei gydnabod gyda Chymrodoriaeth Addysgu Prifysgol 69´«Ã½.
Dr Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Ychwanegodd Kevin, "Mae cael y cyfle i ddysgu ein myfyrwyr fel technegydd yn anrhydedd fawr i mi a dyma'r agwedd ar fy rôl sy'n rhoi'r mwyaf o foddhad a theimlad o gyflawniad i mi. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol i'r holl staff addysgu ac wedi gofyn am gyflwyno sesiynau addysgu yn hyblyg ac yn arloesol.
Yn y labordy defnyddwyd cymysgedd o adnoddau ar-lein ac addysgu ‘yn bersonol’, gyda gweithdrefnau ac offer wedi’u haddasu’n sylweddol i sicrhau diogelwch myfyrwyr a staff. Roedd y gwaith ychwanegol dan sylw yn anodd iawn ei reoli ar brydiau, ond roedd yr adborth a gawsom gan ein myfyrwyr a'n staff yn wych ac yn gwneud yr holl ymdrech ychwanegol yn werth chweil. Mae'n anrhydedd wirioneddol i mi dderbyn y wobr hon a diolch i'r holl staff sy'n cymryd rhan.
Llongyfarchiadau i chi oll!
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021