Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol 69´«Ã½ ar y rhestr fer am Wobr Iechyd ym Mhrydain
Mae (CMRP) Prifysgol 69´«Ã½ wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am wobr iechyd bwysig ym Mhrydain sy'n rhoi sylw i bobl a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i hyrwyddo iechyd a lles yng ngwledydd Prydian.
Cyhoeddir enillwyr mewn achlysur yn Llundain ar 15 Gorffennaf. Rhoddir y wobr gan Sefydliad Bevan a Chymdeithas Aneurin Bevan, gyda chefnogaeth hael gan UNSAIN, y Brifysgol Agored a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.
Unwaith eto bydd Gwobr Bevan yn cydnabod un unigolyn ac un sefydliad sy'n ymgorffori gwerthoedd sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o ddatblygu gallu i ganolbwyntio mewn ffordd bwrpasol ac anfeirniadol sy'n hoelio sylw ar y foment dan sylw. Mae'r ymarfer wedi ei seilio i raddau ar draddodiadau myfyrio hynafol ond mae wedi'i ddatblygu'n rhaglen hyfforddi wyth sesiwn ar gyfer cyd-destunau seciwlar cyfoes.
Mae cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar yn awr yn cael eu cynnig gan y GIG mewn llawer rhan o'r wlad fel triniaeth i ystod o anhwylderau iechyd meddwl yn dilyn ei argymell gan y National Institute for Clinical Excellence. Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos gostyngiad o 40-50% yn y risg i rai sy'n dioddef oddi wrth iselder gael ail bwl o'r salwch ar ôl iddynt wneud ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae CMRP Prifysgol 69´«Ã½, ac ymwybyddiaeth ofalgar yn gyffredinol, wedi cael cryn amlygrwydd yn ddiweddar, yn dilyn sefydlu grŵp ymwybyddiaeth ofalgar yn San Steffan a chyfres o gyfweliadau a rhaglenni dogfen ar ymwybyddiaeth ofalgar ar BBC Radio 4 yn ystod y mis diwethaf.
Meddai Rebecca Crane, Cyfarwyddwr CMRP yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol;
“Rydym yn hynod falch o gael ein rhoi ar y rhestr fer am y wobr yma, sy'n cydnabod a rhoi amlygrwydd i unigolion a sefydliadau sy'n gweithio i sicrhau fod pawb ym Mhrydain yn cael cyfle cyfartal o ran manteisio ar wasanaethau iechyd a gwella iechyd - rhai o werthoedd sylfaenol y GIG.
Mae ein hymchwil ym Mhrifysgol 69´«Ã½ wedi ymestyn i ddatblygu a gwerthuso effeithiolrwydd therapïau wedi'u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau - ac yn y GIG yn arbennig. Rydym hefyd wedi hyfforddi unigolion a hyfforddwyr, gan alluogi miloedd o bobl i ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar er eu lles eu hunain."
Mae CMRP wedi rhoi arweiniad cyson ym Mhrydain o ran galluogi i'r dystiolaeth ymchwil gadarn ar effeithiolrwydd ymwybyddiaeth ofalgar gael ei rhoi ar waith o fewn y GIG a chyd-destunau eraill. Yn ystod y cyfnod hwn o gynnydd mewn diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar, mae CMRP wedi dyfnhau ei bwyslais y pwysigrwydd i sefydliadau, comisiynwyr ac ymarferwyr roi sylw i onestrwydd ac ymarfer da.
Mae Sefydliad Bevan yn elusen gofrestredig sy'n gweld y wladwriaeth les, a sefydlwyd gan Aneurin Bevan, fel elfen sylfaenol i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder ac mae'n datblygu atebion i anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, gan anelu at fynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2014