Ym Mhrifysgol 69“«Ć½ defnyddiwyd arbenigedd yn y prosesau seicolegol syān sail iār lefelau uchaf o berfformiad dynol i ddatblygu teclyn seicolegol newydd i asesu āparodrwydd i berfformioān ddaā ym mysg perfformwyr elĆ®t ym myd chwaraeon a busnes.
Bydd y hon yn para dwy flynedd ac yn adeiladu ar hanes hir o gydweithio rhwng y cwmni gwasanaethau seicolegol Changing Minds a . Bydd gwaith y bartneriaeth yn adeiladu ar fframwaith asesuār cwmni, sef fframwaith ar sail tystiolaeth oār enw āPerforming Wellā. Mae hwn yn fframwaith unigryw, sydd wedi lywio gan seicoleg, ac syān ystyried sut mae nodweddion seicolegol unigolion yn rhyngweithio Ć¢ār amgylchedd y disgwylir iddynt berfformio ynddo, a natur y tasgau y byddant yn eu gwneud.

Mae yn gweithio gyda thimau, sefydliadau ac unigolion ar lefel elît, i'w helpu i gyrraedd eu potensial mewn chwaraeon neu berfformio hyd eithaf eu gallu mewn amgylcheddau corfforaethol pwysedd uchel. Mae eu gwasanaethau wedi cefnogi llwyddiant ar y lefel elît ym meysydd pêl-droed, criced, rygbi, tennis a chwaraeon Olympaidd.
āMae mynd ar drywydd rhagoriaeth aār dyhead i lwyddo weithiauān gwthio pobl i derfyn eithaf eu gallu, gan arwain at bwysau a gofynion syān golygu nad ydym bob amser yn perfformio ar ein gorau,ā eglura Dr Andrew Rogers, cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Changing Minds, cwmni sydd wedi'i leoli yn Warrington, ond syān gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
āTrwyār profiad sylweddol sydd gennym o gymhwyso gwybodaeth seicolegol arbenigol i amgylcheddau chwaraeon ac amgylcheddau corfforaethol, rydym yn credu y gallwn gynyddu ymwybyddiaeth a dylanwadu ar ymddygiad er mwyn hyrwyddo llesiant a chynyddu a chynnal perfformiad seicolegol uchel, gan gyfyngu ar y risg o fethu Ć¢ pherfformio. Dyna mae āPerfformioān Ddaā yn ei olygu i ni."
Cefnogi asesiadau effeithiol o barodrwydd unigolion i berfformio'n dda
Trwyār Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth bydd Changing Minds yn defnyddioār fframwaith āPerforming Wellā i ddatblygu teclyn asesu newydd a fydd wedi ei seilio ar dair agwedd, sef person, tasg ac amgylchedd, a bydd hynnyān golygu y bydd modd cynnal asesiadau mwy gwrthrychol, credadwy ac effeithiol o barodrwydd seicolegol unigolyn i berfformioān dda. Bydd hyn yn galluogi Changing Minds i fodloniār galw cynyddol yn y maes hwn oār byd chwaraeon a busnes yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae gwybod pa chwaraewyr dawnus i fuddsoddi ynddynt neu wybod pwy syān barod i gael eu dewis i gystadlu yn benderfyniadau anodd. Mae unrhyw beth a all leihau ansicrwydd wrth wneud y penderfyniadau hynnyān ddatblygiad cadarnhaol. Mae teclyn clyfar fel hwn yn gysyniad hynod ddiddorol a bydd yn ychwanegu lefel o drylwyredd iār penderfyniadau hynny, a bydd hefyd yn annog systemau perfformiad uchel i ystyried pa fath o gymorth seicolegol sydd ei angen i helpu unigolyn i ffynnu.
Mae Dr Ross Roberts yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer ac yn seicolegydd siartredig. Ef sy'n arwain ar y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ar ran Prifysgol 69“«Ć½, ac ychwanegodd ef,
āYr hyn syān gyffrous am y prosiect hwn ywār cyfle i drosglwyddo ein gwybodaeth academaidd fanwl am seicoleg chwaraeon a pherfformiad i brosiect syān fasnachol hyfyw gyda chwmniār ydym niān ei adnabod yn dda. Maeār effaith y gallwn ei chael gydaān gilydd yn enfawr o ran y gefnogaeth y gellir ei chynnig i unigolion a sefydliadau ar lefel perfformiad uchel.
āHoll ddiben y prosiect hwn yw cyfuno holl wybodaeth y tĆ®m i greu rhywbeth, syān seiliedig ar dystiolaeth empirig a chywirdeb gwyddonol cadarn, a fydd yn rhoi profiad llyfn iār defnyddiwr terfynol.ā
Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch y fideo isod i dysgu sut mae Prifysgol 69“«Ć½ yn gweithio gyda Changing Minds
Am ragor o wybodaaeth, cysylltwch â Dr Ross Roberts.
Cafodd y prosiect yma ei noddi gan UKRI trwy .
