Astudiaeth gyntaf y byd ar ddwyieithrwydd mewn syndrom Rett ym Mhrifysgol 69´«Ã½
Mae ymchwil Cymreig newydd yn datgelu bod pobl sydd â syndrom Rett yn gallu datblygu sgiliau mewn mwy nag un iaith dros amser.
Mae tîm ymchwil Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol 69´«Ã½ wedi cynnal astudiaeth gyntaf y byd yn dogfennu datblygiad iaith ddwyieithog mewn unigolyn sydd â syndrom Rett, sy’n gyflwr genetig prin. Mae'r astudiaeth, sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Clinical Linguistics and Phonetics, yn dangos y gall unigolyn sydd â syndrom Rett ddatblygu sgiliau iaith yn ddwyieithog.
Mae syndrom Rett yn gyflwr niwroddatblygiadol, sy'n effeithio ar ddatblygiad corfforol ac ieithyddol. Yn gyffredinol, mae pobl sydd â syndrom Rett yn dangos datblygiad nodweddiadol yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd ac yna’n colli sgiliau, fel y gallu i gerdded a siarad. Mae gan rai unigolion fath o syndrom Rett sy'n caniatáu iddynt ddatblygu ychydig o leferydd, sef yr amrywiad cadw lleferydd.
Defnyddiodd ymchwilwyr o'r Labordy Dwyieithrwydd Plant astudiaeth achos hydredol i ddogfennu datblygiad iaith dwyieithog Saesneg-Cymraeg gyda'r amrywiad syndrom Rett cadw lleferydd. Fe wnaeth y cyfranogwr wella ei dealltwriaeth a’i chynhyrchiad yn Gymraeg a Saesneg dros gyfnod o dair mlynedd.
Dwedodd Rebecca Day, sy’n Ymchwilydd PhD mewn Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol 69´«Ã½ ac awdur arweiniol yr astudiaeth: ‘Rydyn wedi clywed gan deuluoedd dwyieithog eu bod wedi cael eu hannog gan weithwyr proffesiynol i siarad Saesneg yn unig â’u plant sydd â syndrom Rett oherwydd ofn y byddai dwy iaith yn rhy ddryslyd. Mae’r astudiaeth hon yn gam cyntaf cyffrous i ddangos i deuluoedd nad yw dwyieithrwydd yn niweidiol i ddatblygiad iaith pobl sydd â syndrom Rett.’
Mae’r astudiaeth newydd hon yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd mewn unigolion sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol. Nid yw astudiaethau blaenorol, gan gynnwys y rhai a gynhelwyd ym Mhrifysgol 69´«Ã½, wedi canfod unrhyw dystiolaeth o effaith negyddol dwyieithrwydd mewn cyflyrau datblygiadol eraill, gan gynnwys syndrom Down ac awtistiaeth.
Eglura Dr Eirini Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth a Phennaeth y Labordy Dwyieithrwydd Plant: ‘Gall plant sydd â chyflyrau datblygiadol ddysgu dwy iaith a dylid cefnogi teuluoedd os ydyn nhw’n dymuno magu eu plant yn ddwyieithog. Mae’n bleser cyflwyno’r canfyddiadau cadarnhaol hyn ar ddwyieithrwydd mewn syndrom Rett. Mae’n gam arloesol pwysig i hawliau plant mewn amgylchedd ddwyieithog yng Nghymru ac yn fyd-eang.’
Ariannwyd yr astudiaeth gan Ysgol Graddedigion y Gymraeg y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’i chynnal yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, Prifysgol 69´«Ã½. Mae'r cyhoeddiad ar gael . Mae erthygl ategol yn The Conversation ar gael .