Academyddion Prifysgol 69传媒 wedi'u penodi i is-baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029
Heddiw (dydd Iau, 4 Medi), cyhoeddodd y pedwar corff sy鈥檔 ariannu addysg uwch yn y Deyrnas Unedig fod dau academydd o Brifysgol 69传媒 wedi cael eu penodi鈥檔 aelodau o baneli a fydd yn cynllunio'r asesiad cenedlaethol nesaf o ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig.
Caiff y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ei defnyddio i ddyrannu tua 拢2 biliwn o gyllid cyhoeddus bob blwyddyn, sy鈥檔 golygu fod cael canlyniadau da trwy鈥檙 fframwaith yn hollbwysig i sefydliadau addysg uwch. Mae'r cyrff ariannu bellach wedi penodi aelodau鈥檙 paneli a fydd yn gweithio ar lunio鈥檙 meini prawf ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029. Yn dilyn proses recriwtio drylwyr ac agored, mae gr诺p amrywiol o arbenigwyr cymwys iawn wedi'u dewis ar draws pob un o'r 34 o unedau asesu.
O Brifysgol 69传媒 penodwyd:
- Zo毛 Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol, a fydd yn ymuno ag is-banel D27: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
- Dr Aled Llion Jones, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, a fydd yn ymuno ag is-banel D26: Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Bydd gan y ddau r么l allweddol yn y gwaith o lunio'r fframwaith mewn modd a fydd yn cefnogi'r sector addysg uwch drwy ddarparu asesiad trylwyr a dibynadwy o ymchwil yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r penodiadau a wnaed yn adlewyrchu cryfder ac amrywiaeth y gymuned ymchwil sydd i鈥檞 chael yn y Deyrnas Unedig, sydd yn cynnwys staff o wasanaethau proffesiynol, technegwyr, llyfrgellwyr, a phobl eraill y mae eu harbenigedd yn rhoi sylfaen i ragoriaeth mewn ymchwil. Mae cynrychiolaeth gref o'r tu allan i'r byd academaidd, gan gynnwys dros ddau ddwsin o banelwyr o sefydliadau ym meysydd diwydiant, polisi a'r trydydd sector. Mae nifer wedi eu dewis i dreialu panel Pobl, Diwylliant a'r Amgylchedd sy鈥檔 gobeithio dysgu gwersi gwerthfawr o'r peilot.
Am y tro cyntaf, penodwyd aelodau鈥檙 paneli drwy broses ymgeisio agored, yn hytrach na thrwy enwebiadau, a gwnaed hyn er mwyn lleihau鈥檙 rhwystrau a denu cronfa ehangach a mwy cynhwysol o ymgeiswyr. Cynlluniwyd y dull hwn mewn cydweithrediad 芒 chyrff y sector a Phanel Ymgynghorol Pobl ac Amrywiaeth Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029, gan helpu i sicrhau bod y paneli鈥檔 ennyn ymddiriedaeth a hyder eu priod gymunedau ymchwil.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil), 鈥淒wi wrth fy modd bod dau o鈥檔 cydweithwyr ni wedi cael eu dewis i chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith o lunio dyfodol ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Mae eu penodi鈥檔 tystio i ragoriaeth ac ehangder ysgolheictod ym Mhrifysgol 69传媒, ac i'r cyfraniad gwerthfawr y mae ein hacademyddion yn ei wneud i'r gymuned ymchwil ehangach. Mae gen i bob hyder y bydd yr Athro Skoulding a Dr Jones yn dod ag arbenigedd a mewnwelediad gwych i baneli REF 2029, ac yn helpu i sicrhau bod y broses yn adlewyrchu amrywiaeth a chryfder ymchwil ar draws y sector.鈥
Dywedodd Cyfarwyddwr REF, Rebecca Fairbairn, 鈥淏u鈥檔 fraint gweithio gyda chyrff y sector a chadeiryddion y paneli ar y dull recriwtio newydd ac agored hwn. Rwy'n ddiolchgar am eu mewnwelediad a'u harweinyddiaeth drwy gydol y broses. Cefais fy ysbrydoli o weld dyfnder, cryfder ac ymrwymiad cymuned ymchwil y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu aelodau newydd y paneli i fod yn rhan o鈥檙 t卯m.鈥
Yr tro diwethaf y cynhaliwyd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021), a gyhoeddwyd yn 2022, roedd 85% o ymchwil Prifysgol 69传媒 naill ai gyda鈥檙 gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Cafodd y Brifysgol ei rhestru hefyd ymhlith y 30 Uchaf trwy鈥檙 Deyrnas Unedig am effaith ei hymchwil, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth y mae ein hymchwil yn ei wneud yn y byd go iawn. Gallwch ddysgu mwy am berfformiad Prifysgol 69传媒 yn yr asesiad cenedlaethol diwethaf. yma.