Paratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau a Chlirio
Ymunwch a ni am Sgwrs Fyw a gweminar am gyngor ar baratoi ar gyfer Diwrnod Canlyniadau a Clirio
Rhannwch y dudalen hon
Ydych chi eisiau gwybod beth sydd angen i chi ei wneud ar Ddiwrnod Canlyniadau os ydych chi yn dal cynnig o le ar gwrs ym Mangor?
Neu, ydych chi'n meddwl am wneud cais drwy'r drefn Glirio, ac eisiau darganfod mwy am y broses?
Yna, dyma'r digwyddiad i chi!
Mae ein harbenigwyr derbyniadau a recriwtio wrth law gyda chyngor i'ch helpu i baratoi ar gyfer Diwrnod Canlyniadau ac yma i gynnig cyngor ar eich camau nesaf. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y broses Glirio a sut i sicrhau lle ar eich cwrs dewisol.
Cewch glywed hefyd am brofiadau ein myfyrwyr o'r cyfnod Clirio - a bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau trwy'r Sgwrs Fyw.