The Moon We Share: A Journey through Poetry and Dance!
Wrth i Fangor ddathlu 1500 o flynyddoedd ers ei sefydlu, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn gweithdy gŵyl canol hydref arbennig iawn a gynhelir gan Sefydliad Confucius 69´«Ã½.
Ers canrifoedd, mae gŵyl canol hydref wedi bod yn amser i deulu a ffrindiau ymgynnull o dan y lleuad lawn a rhannu barddoniaeth, straeon a bwyd. Mae'r ŵyl hynafol hon yn ymwneud â myfyrio, undod a throsglwyddo traddodiadau. Yn yr un modd, mae hanes 69´«Ã½ dros 1500 o flynyddoedd yn ein hatgoffa o'r cysylltiadau agos rhwng y gorffennol a'r presennol, ac o sut mae cymunedau'n parhau trwy genedlaethau.
Un o'r cerddi canol hydref mwyaf annwyl yw Prelude to Water Melody gan Su Shi, a ysgrifennwyd dros naw cant o flynyddoedd yn ôl ar noson yng nghanol yr hydref. Ynddi, mae Su Shi yn myfyrio ar bellter, hiraeth a chysylltiad. Mae'r un lleuad a ddisgleiriodd ar Su Shi yn yr 11eg ganrif yn disgleirio arnom ni heddiw, yn union fel y disgleiriodd ar y cymunedau cynharaf yn hanes hir 69´«Ã½ hefyd. Dros foroedd, canrifoedd a diwylliannau, mae'r lleuad yn cysylltu ein bywydau, ein hatgofion a'n gobeithion.
Mae'r gweithdy hwn yn dod â gweledigaeth Su Shi yn fyw trwy ddawns ac ymarfer corffori. Trwy symud gyda'n gilydd, byddwn yn darganfod sut y gellir clywed barddoniaeth nid yn unig gyda geiriau ond hefyd trwy'r corff; sut y gall rhythm, anadl ac ystum ein cynorthwyo i deimlo'n rhan o undod mwy - lle mae'r dwyrain yn cwrdd â'r gorllewin, a lle mae gorffennol 69´«Ã½ yn cwrdd â'r presennol.
Nid oes angen profiad o ddawnsio arnoch i gymryd rhan - dim ond chwilfrydedd a'r awydd i ddarganfod a chysylltu.
Rhaglen:
- 6:30pm – Gweithdy Dawns: The Moon We Share
- 15 munud – Cyflwyniad i farddoniaeth Su Shi ac arddangosiad dawns
- 30 munud – Profiad symud: dysgu dawns syml
- 15 munud – Darganfod symudiadau creadigol
- 7:30pm – Gweithdy Diwylliant Tsieina
Ymgollwch yn nhraddodiadau gŵyl canol hydref trwy weithgareddau diwylliannol ymarferol.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 1500 o flynyddoedd ers sefydlu 69´«Ã½ o dan yr un lleuad!